Welsh subtitles for clip: File:¿Qué es Wikipedia?.ogv
Jump to navigation
Jump to search
1 00:00:04,730 --> 00:00:05,500 Helo! 2 00:00:05,579 --> 00:00:07,683 Fy enw i yw Marina a hoffwn ddweud wrthoch chi am Wicipedia. 3 00:00:07,675 --> 00:00:09,855 Rwy'n siŵr eich bod yn ymwybodol ohono ac yn ei ddefnyddio. 4 00:00:09,863 --> 00:00:13,112 Ond ydych chi'n gwybod ei gwir ystyr a phwrpas a sut mae'n cael ei greu? 5 00:00:13,360 --> 00:00:16,238 Er ei fod yn edrych fel gwyddoniadur gwahanol, 6 00:00:16,238 --> 00:00:18,786 mae'n rhannu'r un nod a gwyddoniaduron traddodiadol: 7 00:00:18,786 --> 00:00:22,445 "Dod a holl wybodaeth y byd ynghyd mewn dull systematig". 8 00:00:22,707 --> 00:00:25,442 Fodd bynnag, mae gan Wicipedia rhai gwahaniaethau pwysig 9 00:00:25,442 --> 00:00:27,378 o'i gymharu â gwyddoniaduron traddodiadol. 10 00:00:27,626 --> 00:00:31,743 Er enghraifft, mae'n cael ei ddatblygu gan filoedd o wirfoddolwyr 11 00:00:31,743 --> 00:00:35,355 gyda'r bwriad o wneud gwybodaeth ar gael i bob person ar y blaned, 12 00:00:35,355 --> 00:00:36,569 yn eu hiaith eu hunain. 13 00:00:36,831 --> 00:00:37,840 Sut mae cyflawni hyn? 14 00:00:38,229 --> 00:00:41,856 Pa reolau sy'n cadw trefn ar, ac yn arwain ''wicipedwyr''? 15 00:00:41,856 --> 00:00:43,769 Dyna yw testun y fideo yma. 16 00:00:49,000 --> 00:00:52,800 Gall unrhyw un ychwanegu neu gywiro cynnwys Wicipedia 17 00:00:52,900 --> 00:00:55,800 ond mae'n rhaid cydnabod mai gwyddoniadur ydyw o hyd, 18 00:00:55,792 --> 00:00:59,738 felly ni dderbynnir ymchwil na thraethodau gwreiddiol yma. 19 00:00:59,746 --> 00:01:02,389 Rhaid i erthyglau gyfleu diddordeb cyffredin, 20 00:01:02,389 --> 00:01:05,572 a dylant osgoi gwybodaeth ddarfodedig - gwybodaeth dros dro. 21 00:01:05,572 --> 00:01:07,342 Dyna yw'r rheol gyntaf oll, 22 00:01:07,342 --> 00:01:08,794 neu, fel y caiff ei alw gan Wicipedwyr, 23 00:01:08,794 --> 00:01:12,009 "Y Golofn Cyntaf" yn y modd mae'r gwyddoniadur hwn yn gweithio. 24 00:01:13,100 --> 00:01:15,855 Mae llawer o wirfoddolwyr yn ysgrifennu i'r gwyddoniadur hwn. 25 00:01:15,855 --> 00:01:18,094 Pobl o gefndiroedd gwahanol, 26 00:01:18,094 --> 00:01:19,015 gydag amrywiaeth o gredoau, 27 00:01:19,015 --> 00:01:20,365 a gyda syniadau gwahanol. 28 00:01:20,900 --> 00:01:24,900 Ni ddylai Wicipedia goleddu safbwynt fel un ei hun; 29 00:01:25,150 --> 00:01:28,650 ond dylai wneud ymdrech i gynnwys yr holl safbwyntiau posib. 30 00:01:28,900 --> 00:01:31,487 Dyna pam yr enwir yr ail golofn yn 31 00:01:31,487 --> 00:01:33,487 "Safbwynt Diduedd". 32 00:01:35,000 --> 00:01:38,321 Mae'r trydedd golofn yn dangos bod cynnwys Wicipedia am ddim. 33 00:01:38,527 --> 00:01:42,060 Mae'r testunau ar gael i'w defnyddio, eu newid, a'u dosbarthu ar gyfer unrhyw bwrpas, 34 00:01:42,060 --> 00:01:44,186 cyn belled a bod y ffynhonnell yn cael ei phriodoli'n gywir 35 00:01:44,186 --> 00:01:46,164 a bod yr un drwydded hawlfraint "Creative Commons" yn cael ei chadw. 36 00:01:46,350 --> 00:01:49,600 Gall trwyddedu amrywio o ran delweddau 37 00:01:49,850 --> 00:01:52,600 ond caniateir copio ac ail-ddefnyddio o hyd. 38 00:01:53,300 --> 00:01:56,300 Yn yr achosion hyn, dylai pob trwydded berthnasol gael ei darllen 39 00:01:56,300 --> 00:01:58,500 er mwyn deall ystod rhyddid y drwydded ayb. 40 00:02:01,500 --> 00:02:04,300 Gall rhyngweithio rhwng cymaint o bobl achosi dadlau. 41 00:02:04,550 --> 00:02:08,650 Felly, y bedwaredd Golofn yw y dylai defnyddwyr fod yn barchus o'i gilydd, 42 00:02:08,650 --> 00:02:10,200 a thybio ewyllys da pob tro. 43 00:02:10,200 --> 00:02:13,900 Mae goddefgarwch a boneddigeiddrwydd yn sylfaenol i'r prosiect. 44 00:02:16,800 --> 00:02:19,500 Does gan Wicipedia ddim rheolau cadarn. 45 00:02:19,579 --> 00:02:20,889 A gall hyn ymddangos yn od! 46 00:02:20,897 --> 00:02:23,309 Dyma yw pumed Golofn y gwyddoniadur hwn. 47 00:02:23,309 --> 00:02:26,664 Er mwyn i chi gymryd rhan, dim ond synnwyr cyffredin 48 00:02:26,664 --> 00:02:30,082 a pharch tuag at Wicipediaid eraill sydd eu hangen ar yr anturiaeth! 49 00:02:30,450 --> 00:02:32,500 Gall pawb gyfrannu rhywbeth. 50 00:02:32,750 --> 00:02:34,750 Mae rhai pobl yn datblygu erthyglau cymhleth a chyflawn 51 00:02:34,750 --> 00:02:37,300 tra bod eraill yn cywiro gwallau sillafu bychan. 52 00:02:37,300 --> 00:02:40,000 Gallwch hefyd helpu wrth greu, golygu a chywiro erthyglau. 53 00:02:40,780 --> 00:02:42,296 Mae'n bosib dadwneud golygiadau. 54 00:02:42,296 --> 00:02:46,425 Felly os ydych yn gwneud rhywbeth yn anghywir mae'n bosib dychwelyd at y fersiwn blaenorol. 55 00:02:46,425 --> 00:02:48,625 Byddwch yn ddewr! Byddwch yn Wicipediad!